Teulu yw dosbarth Tegid sydd yn cynnwys disgyblion dosbarth derbyn i flwyddyn 2. Rydym yn gwneud y mwyafrif o’n dysgu trwy gyfrwng Saesneg ond rydym yn defnyddio a datblygu’r defnydd o Gymraeg pob dydd yn y dosbarth i annog dwyieithrwydd. Rydym yn ddosbarth croesawgar a chyfeillgar sydd yn ymfalchio ar gynnwys llais y disgybl a datblygu pob dysgwr i fod yn llwyddiannus ac i gyrraedd eu potensial llawn. Rydym yn annog ein dysgwyr i fod yn iach ac hyderus, uchelgeisiol, anturus a chreadigol, chwylfrydig ac i fwynhau dysgu. Mae ein pwyslais ar ddysgu trwy chwarae a gweithgareddau diddorol sydd yn galluogi ein dysgwyr i brofi profiadau realistig tu mewn a thu allan. Mae dysgwyr y dosbarth yn mwynhau ysgol goedwig, sesiynau drosodd i chi sydd yn hyrwyddo datblygu sgiliau hanfodol ac annibynniaeth, yn ogystal a defnyddio adnoddau digidol i ddyfnhau’r dysgu.
Caiff ein dosbarth ei henwi ar ol llyn Tegid, sydd wedi ei leoli yn nhref Bala sydd 19 milltir dros fynydd y Berwyn. Llyn Tegid yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Yn ol pob son, mae anghenfil dirgel yn byw ar waelod y llyn!