Credwn fod dechrau da i’r diwrnod yn hanfodol ar gyfer datblygiad unigolion. Mae ein clwb brecwast yn rhedeg yn ddyddiol am 8.00yb hyd 8.45yb ac yn cynnig cyfle i blant fwynhau brecwast iachus yn ogystal â chymdeithasu gyda’u ffrindiau. Caiff y clwb ei redeg gan Mrs Christine Evans a Mrs Wendy Clough-Jones. Darperir brecwast iachus i’r plant am £2.50 y dydd a gellir talu drwy ddefnyddio ParentPay. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r ysgol.