Dobarth Lluncaws

Croeso i ddosbarth Lluncaws!

Dosbarth Lluncaws yw’r dosbarth ffrwd Cymraeg i ddisgyblion dosbarth derbyn i flwyddyn 2. Mae gennym ni ardaloedd gwahanol yn y dosbarth sydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion y dosbarth feithrin ac atgyfnerthu eu medrau gan roi cyfleoedd dysgu gwahanol iddynt.

Mae dosbarth Lluncaws wedi ei enwi ar ôl llyn sydd yn gorwedd yn y bryniau uwchben pentref Llanrhaeadr ym Mochnant. Yn ôl y chwedl leol cawr caredig a greodd y llyn. Roedd y cawr wedi bod yn cynorthwyo gwraig ffarm leol gan fod ei gŵr yn wael ac i ddiolch iddo rhoddodd gogyn o gaws iddo. Wrth iddo fynd am adre gollyngodd y cawr y cogyn o gaws ac fe roliodd i lawr y bryn gan greu twll anferth yn y ddaear a ddaeth maes o law yn llyn. Mae’r llyn yn un crwn iawn yn union fel cogyn o gaws!

Dosbarth Lluncaws is the Welsh stream class for pupils in reception to year 2. We have many learning areas in the class to support pupils in nurturing and reinforcing different skills and creating different learning opportunities for the pupils.

Dosbarth Lluncaws has been named after a local lake that lies in the hills above Llanrhaeadr ym Mochnant village. According to the local folk story, it was created by a kind giant. He had been helping at a local farm, as the farmer was ill. As a thank you he was given a truckle of cheese which the giant accidently dropped. It rolled down the hill and created a huge hole at the bottom, filling with water eventually and creating a lake. The lake is a lovely round shape just like a truckle of cheese!