Eisteddfod Llanrhaeadr

Mae Eisteddfod Llanrhaeadr yn gyfle gwych i ddisgyblion fagu hyder a datblygu eu sgiliau perfformio o flaen aelodau o’r gymuned. Caiff y disgyblion gyfle i ganu’n unigol neu mewn parti, adrodd yn unigol neu mewn parti, perfformio ymgom neu chwarae offeryn i gynulleidfa groesawgar. Fel ysgol, rydym yn cefnogi Eisteddfod Llanrhaeadr yn flynyddol ac yn ymfalchïo yn ein perthynas agos gyda’r gymuned.

Llanrhaeadr Eisteddfod is a great opportunity for pupils to gain confidence and develop their performing skills in front of a community audience. The pupils have the opportunity to sing a solo or in groups, recite as an individual or in a group, act a short script or play a musical instrument in front of a welcoming audience. As a school, we support Llanrhaeadr Eisteddfod annually and pride ourselves on the close relationship with have with the community.

Da iawn i bawb a gystadlodd yn Eisteddfod Llanrhaeadr ym Mochnant ar ddydd Sadwrn, 5ed o Dachwedd. Braf iawn oedd gweld gymaint o ddisgyblion Ysgol Llanrhaeadr yn ein cynrychioli ar y llwyfan. Roeddech yn wych ac rydym yn falch iawn ohonoch! Diolch hefyd i'r staff am roi eu hamser i ddysgu'r disgyblion.

Well done to everyone who competed at Eisteddfod Llanrhaeadr ym Mochnant on Saturday, 5th November 2023. It was great to see so many of Ysgol Llanrhaeadr's pupils on the stage representing the school. You were all great and you should be very proud of your achievements. Also, a huge thank you to all the staff for taking the time to teach the pupils.