Croeso i’n dosbarth ni – dosbarth Efyrnwy. Mae 4 blwyddyn ysgol yn ein dosbarth ni – blynyddoedd 3,4,5 a 6 – felly mae digon o amser a chyfleoedd i ddysgu, mwynhau a dod i adnabod ein gilydd. Mrs Turner yw ein hathrawes dosbarth a Mrs Beth Evans yw’r cynorthwydd addysgu. Rydym yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg y mwyafrif o’r amser ac yn ymfalchïo ein bod yn ddisgyblion dwyieithog.
Rydym wedi enwi’r dosbarth ar ôl llyn lleol pwysig – Llyn Efyrnwy, Llanwddyn. Mae hanes diddorol i’r llyn yma. Cafodd ei greu yn 1888. Argae yw llyn Efyrnwy, sydd tua 5 milltir o hyd, perimedr o 12 milltir ac yn 26 metr o ddyfnder. Meddyliwch – gallech ffitio 600 cae pêl-droed ynddo!
Cafodd yr argae ei greu i storio dŵr glân ar gyfer Lerpwl. Yn wir, boddwyd hen bentref Llanwddyn er mwyn creu’r argae. A oedd hyn yn deg? Mae llawer o ddadlau o blaid ac yn erbyn creu argae fel hyn. Dydyn ni ddim yn meddwl byddai hyn yn digwydd heddiw.
Mae Llyn Efyrnwy yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi fwynhau gwylio natur, adar, cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr, cerdded a chaffi cŵl. Yn yr un modd, rydyn ni’n cynnig llwyth o gyfleoedd yn ein dosbarth ni i ddysgu, profi gweithgareddau amrywiol, datblygu sgiliau diri, cwrdd â ffrindiau ac ymwelwyr hen a newydd, mynd ar dripiau lleol a chenedlaethol.
Mae llwybrau llwyddiant yn llifo yn ein dosbarth ni – Dosbarth Efyrnwy!