Croeso i Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant!
Mae Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant yn ysgol ddwy-ffrwd sydd wedi ei lleoli yng nghanol Dyffryn Tanat ym mhentref hanesyddol Llanrhaeadr ym Mochnant. Mae’r ysgol wedi ei adeiladu ar werthoedd cymunedol, uchelgeisiol a theg sydd yn annog creadigrwydd, iechyd, hyder a chydweithio. Mae staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni, ynghyd, yn gweithio tuag at yr un nod, i ddarparu addysg bleserus yn llawn cyfleoedd ar gyfer ein disgyblion.
Yn Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, rydym yn gwneud y mwyaf o’r tirwedd naturiol a lleol sydd yn ein cwmpasu. Mae’r Pistyll Rhaeadr, sef un o saith ryfeddod Cymru, yn ganolbwynt i’n gweledigaeth “Llwybrau Llwyddiant yn Llifo yn Llan” ac rydym yn falch iawn o’n treftadaeth Gymreig. Mae’r amgylchedd dysgu yn darparu her briodol i bawb o fewn safle diogel a chynaliadwy, ac rydym yn ymfalchïo ar ein safon uchel o ymddygiad.
Os yw eich plentyn yn ymuno â ni am y tro cyntaf, hoffwn eich croesawu fel rhieni ac edrychwn ymlaen at adeiladu perthynas hapus a llwyddiannus gyda chi dros y blynyddoedd i ddod.
Miss Sioned Morris
Pennaeth Dros Dro